Bbc logo

Prentisiaeth Cynorthwyydd Cynhyrchu - Lefel 3 - Gwisgoedd - Cymraeg - Caerdydd

Moves you to
United Kingdom
Support
Relocation support
Posted

73,984 relocation jobs, straight from company career pages

100% free · New jobs every minute

Show job description
Job Description
Job Requisition ID: 56140
Job Closing Date: 24 November 2026
Cardiff, GBR, CF10 4GA

MATH O GONTRACT: Prentisiaeth Cyfnod Penodol, Llawn-amser am 13 mis
ADRAN: Gwisgoedd
LLEOLIAD: Cardiff - Roath Lock
CYFLOG: £24,650

AI UN O BRENTISIAETHAU’R BBC YW’R SWYDD NESAF I CHI?

Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb i’ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a’ch talent. Byddwch yn dysgu yn y gwaith ac yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn maes y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo, a hynny wrth weithio tuag at eich cymhwyster prentisiaeth gydag un o’n darparwyr dysgu.

PAM YMUNO ’R CYNLLUN?

Dyma gyfle i chi lansio gyrfa yng nghanol y byd darlledu ym Mhrydain. Rydym ni'n chwilio am unigolion sy'n frwd dros ganfod sut rydym ni'n creu cynnwys ac yn dod â syniadau'n fyw. Yn dibynnu ar ardal eich lleoliad, gallech chi fod yn gweithio y tu ôl i'r llenni ar gynyrchiadau cyffrous, megis dramâu gafaelgar neu wefr radio byw, ac ennill cymhwyster cydnabyddedig wrth ddysgu yn y gwaith. Dyma gyfle i chi ehangu eich gwybodaeth am gynhyrchu wrth weithio ar gynnwys sy'n bwysig i filiynau.


Eisiau gwybod mwy? Gwyliwch recordiadau o’n cyfres o weminarau ar ein rhestr chwarae YouTube Bywyd yn y BBC i ddysgu mwy am y cynllun hwn a’r cyfleoedd eraill rydym ni’n eu cynnig, ac i glywed gan ein prentisiaid presennol am eu profiadau nhw.


Mae lleoedd ar y Brentisiaeth Cynorthwyydd Cynhyrchu ar gael ar draws amrywiaeth o dimau yn y lleoliad hwn, yn ogystal â lleoliadau eraill. Mae manylion lleoliadau gwaith eraill sydd ar gael yn y lleoliad hwn ar wefan Gyrfaoedd Cynnar y BBC.

PAM YMUNO ’R TÎM?

Wedi eich lleoli ym Mhorth y Rhath, Cymru, byddwch yn gweithio ar y gyfres ddrama, Pobol Y Cwm. Byddwch yn gweithio yn yr Adran Gwisgoedd, ac yn ennill dealltwriaeth o bob agwedd ar sut mae’r cynhyrchiad yn gweithio gan ganolbwyntio’n benodol ar Wisgoedd.

Fel Prentis Cynorthwyydd Cynhyrchu yn y BBC, byddwch chi’n cael profiad ymarferol ar draws amrywiaeth o brosiectau – o gefnogi cynyrchiadau uchel eu proffil i gyfrannu at gynnwys y mae cynulleidfaoedd ledled y DU yn ei fwynhau. Byddwch chi’n gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol profiadol, yn datblygu sgiliau ymarferol ac yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddod â syniadau creadigol yn fyw. Gallai’r brentisiaeth hon arwain at gyfleoedd i weithio fel:


• Is-ymchwilydd
• Rhedwr
• Cynorthwyydd Cynnwys neu Olygu

EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU A’CH DYLANWAD

Fel Prentis Cynorthwyydd Cynhyrchu gyda Chwaraeon Gwisgoedd, mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu, tyfu a chyfrannu. Fe allech chi fod yn:

  • Helpu i ddatblygu syniadau a straeon drwy ymchwilio i gynnwys a dod o hyd i westeion a chyfranogwyr.
  • Ennill profiad bywyd go iawn drwy gynorthwyo eich tîm ar leoliad, yn y stiwdio, neu mewn oriel deledu, a helpu ar lawr y stiwdio.
  • Dysgu sut mae defnyddio offer technegol a meddalwedd arbenigol drwy gefnogi timau gyda chamerâu, sain, goleuadau a golygu.
  • Creu cynnwys ar gyfer sawl llwyfan, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, o dan arweiniad gweithwyr proffesiynol profiadol.

Byddwch yn astudio ar gyfer eich cymhwyster prentisiaeth sy’n cael ei gydnabod gan y diwydiant, gan ddysgu yn y gwaith a’r tu allan i'r gwaith. Mae hyn yn golygu y byddwch chi, yn ogystal â dysgu ar eich lleoliad yn y BBC, yn mynychu blociau dysgu (hyd at wythnos ar y tro) gyda'n darparwr dysgu, gan weithio tuag at gymhwyster prentisiaeth a gydnabyddir gan y diwydiant – Lefel 3 y Cyfryngau Creadigol. Bydd y blociau dysgu yn gyfuniad o ddarpariaeth wyneb yn wyneb a rhithwir, gan gynnwys:

  • Cyflwyniadau
  • Gwaith grŵp



Fel rhan o’r rhaglen, bydd gofyn i chi deithio i fynd i flociau dysgu wyneb yn wyneb a gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r brentisiaeth lle bo angen.

I gael rhagor o wybodaeth am safon y brentisiaeth y byddwch yn ei hastudio, darllenwch y manylion yn Fframwaith Lefel 3 Cyfryngau Creadigol.

EICH SGILIAU A’CH CYMHWYSEDD

Rydym ni eisiau gwybod pam eich bod chi’n awyddus i weithio yn y BBC, ac mae gennym ddiddordeb yn eich brwdfrydedd i ddarparu cynnwys o’r radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol i’n cynulleidfaoedd. Eich potensial sy’n bwysig i ni, nid eich cymwysterau, a byddwn ni’n rhoi cyfle i chi roi eich profiad a’ch cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd.

Os oes gennych chi rai o’r sgiliau a’r profiadau hyn, ynghyd â chryfderau trosglwyddadwy, byddem yn falch o glywed gennych chi ac rydym yn eich annog i wneud cais:

  • Rhywun sy’n angerddol a chwilfrydig am gynnwys, y broses gynhyrchu a’r BBC
  • Rhywun sy’n llawn syniadau newydd a safbwyntiau ffres am gynnwys y BBC
  • Rhywun sy’n aelod gwych o dîm ac yn gallu delio â heriau annisgwyl
  • Rhywun sy’n hyblyg ac yn gallu addasu i’r gwaith er mwyn helpu i ddarparu ein cynnwys.

Mae'r cynllun hwn wedi'i anelu at bobl heb raddio. Os oes gennych chi radd a bod gennych chi ddiddordeb mewn rolau tebyg yn y BBC, rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am swyddi ar wefan gyrfaoedd y BBC neu’n edrych ar ein cynlluniau prentisiaeth eraill.

MEINI PRAWF CYMHWYSEDD

Mae’n rhaid i chi fodloni’r gofynion canlynol i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth yn y BBC:

  • Bod yn 18 oed neu’n hŷn erbyn y bydd y brentisiaeth yn dechrau ym mis Medi 2027
  • Bod wedi byw yn y DU yn ddi-dor am y tair blynedd cyn dechrau’r brentisiaeth
  • Bod yn gymwys yn gyfreithiol i weithio’n llawn-amser yn y Deyrnas Unedig am holl gyfnod y brentisiaeth
  • Bod heb gofrestru ar gynllun prentisiaeth arall sy’n cael ei gefnogi gan y BBC neu sefydliad arall ar hyn o bryd

I gwblhau'r brentisiaeth, rhaid i chi fod â TGAU Gradd 4/C neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg, neu National 5 (Yr Alban) Gradd C, neu Sgiliau Gweithredol Lefel 2 neu gymhwyster cyfatebol. Os nad ydych chi wedi ennill y cymwysterau hyn erbyn dechrau eich prentisiaeth, bydd gofyn i chi gyflawni Sgiliau Swyddogaethol Lefel 2 cyn diwedd cyfnod asesu'r brentisiaeth pan fyddwch chi’n cwblhau eich asesiad terfynol.

BAROD I YMGEISIO?

Peidiwch â cholli'r cyfle i fod yn rhan o rywbeth cyffrous. Ydych chi'n eich gweld eich hun yn ffynnu yn y rôl hon? Cliciwch ‘Ymgeisio Nawr’!

Bydd angen i chi greu proffil ymgeisydd ac ateb ambell gwestiwn – does dim angen CV na llythyr cais.

Os ydych chi’n gymwys, byddwn ni’n eich tywys drwy’r camau nesaf gan roi syniad i chi o beth i’w ddisgwyl.

Bydd angen i chi fyw o fewn pellter teithio i leoliad y swydd hon. Eisiau gweithio o leoliad gwahanol? Edrychwch ar ein hysbysebion eraill – ond cofiwch mai dim ond am un swydd y dylech wneud cais.

Mae hon yn brentisiaeth am gyfnod penodol – bydd eich contract yn para hyd ddiwedd y cynllun. Ar ôl i chi gwblhau eich prentisiaeth, byddwch yn gallu gwneud cais am unrhyw swyddi gwag addas yn y BBC neu yn y sector creadigol ehangach. Byddwch yn cael cymorth gyda datblygiad gyrfa, hyfforddiant cyflogadwyedd, a chyfleoedd rhwydweithio i’ch helpu i gymryd y cam nesaf.

Ar gyfer cyfleoedd prentisiaeth, bydd ymgeiswyr anabl sy’n dewis gwneud cais o dan y Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y rôl yn symud ymlaen i gam nesaf y broses recriwtio fel arfer. Ar gyfer y rhan fwyaf o’n hymgyrchoedd, byddai hyn yn golygu asesiad ar-lein sydd wedi’i gynllunio i asesu eich sgiliau, eich cymhellion a’ch addasrwydd ar gyfer y swydd. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran Cwestiynau Cyffredin ar ein gwefan gyrfaoedd.

PRA27

Disclaimer

This job description is a written statement of the essential characteristics of the job, with its principal accountabilities, incorporating a note of the skills, knowledge and experience required for a satisfactory level of performance. This is not intended to be a complete, detailed account of all aspects of the duties involved.

Our apprenticeship roles are also subject to you having the require qualifications that we have deemed to be necessary for your role and the requirement of the training provider for your scheme. The offer would be subject to you undergoing and meeting the requirements of a skill scan process with the BBC nominated training provider to determine your eligibility.

Please note: If you were to be offered this role, the BBC will conduct Employment screening checks which include Reference checks; Eligibility to work checks; and if applicable to the role, Safeguarding and Adverse media/Social media checks. Any offer made is conditional on these checks being satisfactory.

Before your start date, you may need to disclose any unspent convictions or police charges, in line with our Recruitment policy. This allows us to discuss any support you may need and assess any risks. Failure to disclose may result in the withdrawal of your offer.

We are unable to accept applications via CV and only applications made online will be considered. Please click on the APPLY NOW button to proceed with your application.

Information at a Glance

This is your BBC

At the BBC you can create and innovate in an inclusive environment while contributing to some of the world’s best loved content, and the BBC’s mission to inform, educate and entertain.

Life at BBC

Here you will benefit from:
• Excellent career and professional development.
• Fair pay and flexible benefits including a competitive salary package, a 35-hour working week, 25 days annual leave (26 days for BBC Studios), a range of policies to support your work/life balance, a defined pension scheme and discounted dental, health care and gym.
• A values-based organisation where the way we do things is important as what we do.

As an Apprentice you will also receive:
• An industry recognised qualification.
• Industry-leading training through the BBC Academy and our learning providers (this may involve travel to locations across the UK).
• A dedicated Team Manager and Scheme Specialist to help with your development.
• Training and Mentoring by industry professionals.
• A bespoke BBC apprenticeship experience including apprenticeship development days and membership of the BBC Apprenticeship community.
• Employability and networking training and support to help you secure your next role.
• The opportunity to apply for financial support for relocation subject to eligibility.

You belong

We have a working environment where we value and respect every individual's unique contribution, so all our employees feel that they can belong, thrive and achieve their full potential.

We want to attract the broadest range of talented people to join us. The more diverse our workforce, the better able we are to respond to and reflect our audiences in all their diversity.

We welcome applications from individuals, regardless of age, gender, ethnicity, disability, sexual orientation, gender identity, socio-economic background, religion and/or belief.

Find out more about diversity, inclusion and belonging in our strategy below.

Disability confident

We take inclusivity seriously and want to ensure all candidates who are disabled or have long-term health conditions receive the support and adjustments they need. If you need to discuss adjustments or access requirements for the recruitment process, or to carry out this role, please contact us via the Early Careers Recruitment contact form and we’d be happy to discuss how we can support you through the process.

Similar jobs

Apply for this job100% free